![]() |
||||||||||
Dawns i bobl gydag anghenion penodol Gweithgareddau Hyfforddiant a Chyngor Gyrfaol
|
Pobl ifanc yw craidd rhaglen y cwmni ac o’r herwydd rydym wedi sefydlu Cynllun Cyswllt Diversions Gogledd Cymru ynghyd â Chwmni Dawns Ieuenctid ac wedi cynnal rhaglen gynaliadwy o ddawns ar gyfer bobl ifanc. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau dawns Random Dance, Bare Bones a Diversions Cymru ac rydym yn cefnogi prosiect Dawns Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Rydym hefyd yn gweithio i ddatblygu meysydd “ Dysgu Gydol Oes ” penodol eraill drwy ddarparu gweithgareddau dawns ar gyfer plant bach, oedolion a’r henoed. Mae ein tîm staff proffesiynol yn ymroddedig ac yn frwd dros eu gwaith o ddysgu dawns a rhoi’r cyfle i bobl brofi gwahanol agweddau o ddawns. Gallant ddatblygu sgiliau Dawns Gyfoes, Bale, Jas, Dawnsio Stryd, Salsa, Dawnsio Neuadd, Dawns Greadigol, coreograffi, gwella cyflwr y corff ynghyd â nifer fawr o ddulliau symud eraill, lle bo galw amdanynt. Rydym yn rhoi llwyfan i berfformiadau dawns a gwaith coreograffi proffesiynol, ac yn datblygu ein prosiectau ‘perfformiad mewn addysg’ ein hunain. Mae’r hyfforddiant rydym yn ei ddarparu i rai sy’n frwdfrydig dros ddawns, i’r rhai sy’n gweithio yn y maes ac i athrawon, yn creu cyfleoedd, yn hybu safonau ac yn hyrwyddo datblygiad dawns fel celfyddyd. |
![]() |
||||||||
![]() |
||||||||||