Gwybodaeth gyffredinol
Cyflwyniad
Cartref cwmni Dawns Gogledd-ddwyrain Cymru yw’r Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol yn Llangollen. Mae’r cwmni’n elusen gofrestredig sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Fe’i ddechreuwyd yn 1998 a daeth yn gwmni cyfyngedig annibynnol yn 2002.
Ei amcan yw hyrwyddo dawns fel celfyddyd yng nghymunedau gogledd-ddwyrain Cymru. Ei gobaith yw i addysgu a dod â budd i groestoriad eang o bobl ein cymunedau.
Fe’i sefydlwyd gan y cyfarwyddwr, Paul Anthony Davies , artist dawns sydd â’i gartref yng Nghymru. Mae ei yrfa ym meysydd dawns gyfoes a dysgu dawns yn un ryngwladol ac yn estyn yn ôl dros nifer o flynyddoedd.
Mae’r cwmni’n datblygu dawns yn ardaloedd awdurdodau unedol Dinbych, Y Fflint a Wrecsam. Mae’r cysylltiadau cryf gyda Phafiliwn Rhyngwladol Brenhinol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ynghyd â Diversions - Cwmni Dawns Cymru - yn gymorth mawr i dynnu sylw at raglen ddawns y gogledd-ddwyrain. Mae’r cwmni a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn awyddus i sefydlu cysylltiadau tymor hir gyda chwmnïau tebyg eraill ac yn frwdfrydig yn eu hymdrechion dros sicrhau nawdd.
Cysylltu Staff ac Athrawon Ffurflen Holi Sylwadau |